Mae siâp etholaethau Cymru yn mynd i newid yn “sylweddol”, yn ôl pennaeth y corff a fydd yn ail-lunio’r ffiniau.

Mae yna gynlluniau ar droed i sicrhau bod y 650 o etholaethau Prydeinig sydd yn cael eu cynrychioli yn Nhŷ’r Cyffredin yn debyg o ran maint poblogaeth, sef tua 75,000 o bobol i bob etholaeth.