Mi oedd yna adeg pan oedd gweld baner Jac yr Undeb yn fy ngwneud i’n grac.

Byddai’n gwneud i fi feddwl am yr ymerodraeth Brydeinig yn meddiannu ac yn ysbeilio gwledydd cyfain nad oedd ganddi ronyn o hawl i fod ynddyn nhw.

Byddai’n gwneud i fi feddwl am y ffordd y gwnaeth yr ymerodraeth honno bopeth o fewn ei gallu i ddiddymu diwylliannau brodorol.

Byddai’n gwneud i fi feddwl am bobl yn y gwledydd hynny gafodd eu treisio, eu harteithio, eu llofruddio.