“Does dim syndod” bod mwyfwy o bobol yn cynhesu at annibyniaeth, ac yn eu plith mae “llawer o bobol” sydd fel arfer yn cefnogi Llafur.

Dyna mae Dafydd Wigley wedi ei ddweud mewn pennod ddiweddar o bodlediad Hiraeth.

Yn ystod y cyfweliad bu cyn-arweinydd Plaid Cymru yn trafod y rheiny sy’n gwrthwynebu datganoli, a dywedodd ei fod yn llwyr argyhoeddedig nad oes awydd ymhlith trwch y boblogaeth i ddiddymu’r Senedd.