Anodd yw credu erbyn heddiw fod pobl hoyw Cymraeg wedi gorfod cyfiawnhau eu bodolaeth drwodd a thro ar y cyfryngau yn yr 1980au a’r 1990au cynnar.

A hithau yn Fis Hanes Pobol Lesbiaidd, Deurywiol, Hoyw a Thraws (LDHT+), mae pedwar enw amlwg a fu’n ymgyrchu ar ran y mudiad ‘Cymraeg Cylch’ yn Aberystwyth wedi bod yn hel atgofion am y cyfnod, ac am y rhagfarn y bu’n rhaid iddyn nhw ei ddioddef.