Yn ei ffilm deledu gyntaf ers deng mlynedd, mae Nia Dryhurst yn ymchwilio i’r berthynas – anodd ar adegau – gyda’i chwaer… a’r rhaglen yn dangos sut mae sesiynau therapi wedi dod â’r ddwy yn agosach at ei gilydd…

“Weithiau mae angen sbïo i lygad y boen a sbïo ar y broblem cyn i rywun allu mendio’r doluriau,” meddai Nia Dryhurst wrth esbonio ei phenderfyniad i gofnodi’r broses o geisio gwella’r berthynas gyda’i chwaer fach, Llinos Dryhurst-Roberts, mewn ffilm ar S4C.