Dylai perchnogion ail gartrefi gyfrannu rhagor o arian at gymunedau Cymru, yn ôl Cymro Cymraeg sydd ag ail gartref yng Ngheredigion.

Mae Mathew Reuben Evans, 47, yn byw yn Brighton gyda’i wraig ac yn rhedeg ysbyty iechyd meddwl i ferched ifanc yn ne Llundain.

Ond un o Gaerdydd yw e’ yn wreiddiol (gyda theulu o ochrau Castell Newydd), ac ers 2016 mae wedi bod yn berchennog ar ail gartref yn Llangrannog.