Mae’r cyfnod clo wedi rhoi cyfle i chwaraewr gitâr fas mwyaf cŵl y wlad ddarganfod ei llais…

Ni fyddai’r ddeuawd roc newydd Tacsidermi yn bodoli oni bai am gyfnodau ansicr y pandemig yn 2020.

A hwythau’n styc yn eu cartre’, mi flagurodd perthynas gerddorol o’r newydd rhwng Gwenllïan Anthony, un o’r tair sydd yn y grŵp Adwaith, a’i ffrind Matthew Kilgariff, a oedd wedi bod yn gitarydd gwadd i Adwaith yn ystod taith hyrwyddo’u halbwm gynta’, Melyn.