Mae llyfr newydd o bortreadau a cherddi yn ceisio dangos gwir gymeriad rhai o’r Cymry sy’n cuddio y tu ôl i’r mwgwd…

Cywaith rhwng y ffotograffydd o Gaernarfon, Richard Outram, a’r bardd o Ben-y-groes, Karen Owen, yw’r gyfrol Byd i Gyd Mewn Mygydau.

Mae’n llyfr sy’n cynnwys 12 portread gan y ffotograffydd o ffrindiau Karen Owen yn gwisgo mwgwd, ochr yn ochr â cherdd ganddi i bob un.