Efallai fod eu henwau cyntaf yn dechrau gydag ‘M’.

Efallai fod gan y ddwy gysylltiad â byd y ddrama, y naill yn un o actorion ifanc opera sebon Eastenders y BBC, y llall yn actores y bu’n rhaid iddi roi’r gorau i ymarfer ei chrefft ar ôl priodi ag aelod o gast opera sebon teulu brenhinol Lloegr.

Heblaw am hynny, does fawr yn gyffredin rhwng y ddwy, hyd y gwelaf i.

Heblaw am y ffaith nad yw’r Great British Public, yn ôl pob tebyg, wedi twymo atyn nhw.