Wedi ei magu yn Llanystumdwy ac yn byw yng Nghaernarfon, mae’r gantores 29 oed yn un o’r criw sy’n trefnu Noson Lawen, ac yn cyflwyno sioe newydd o’r enw Stafell Fyw ar y We…

Pam ddylen ni wylio Stafell Fyw?

Achos bod 2020 wedi bod yn flwyddyn ofnadwy i’r rhan fwyaf o bobol, dw i’n meddwl fod o’n grêt i bobol fedru gweld gig hollol fyw yn Gymraeg.