Dwi’n aelod o glwb nad oes unrhyw un eisiau bod yn aelod ohono. Dwi wedi bod yn aelod ers degawd a hanner.

Wnes i ddim dewis ymaelodi. A does dim modd canslo’r aelodaeth, gwaetha’r modd.

Dwi wedi ysgrifennu amdano o’r blaen. A dwi’n ymwybodol y gallai ysgrifennu amdano eto, yma, deimlo’n hunan-faldodus neu’n hunan-obsesiynol. Ond yn y sefyllfa sydd ohoni, mae’n werth atgoffa pobl o’r clwb ’ma nad oes unrhyw bleser ynghlwm wrth fod yn aelod ohono.