Fe wnaeth les i fam a merch greadigol fod ar wahân yn ystod y cyfnod clo, er mwyn iddyn nhw allu cydweithio ar eu llyfr cyntaf gyda’i gilydd…

Mae’r awdur Rhian Cadwaladr, sy’n byw yn nhopiau Rhosgadfan ger Caernarfon, newydd gyhoeddi ei hail lyfr llun-a-stori i blant bach, Ynyr yr Ysbryd, gyda’r darluniau trawiadol gan ei merch Leri Tecwyn.