Bydd Llywodraeth Cymru yn cyfrannu £31 miliwn tuag at y gost o godi ysgol newydd sbon ar gyfer 620 o ddisgyblion o bob oed ym Machynlleth.
Ac mae’r cyngor sir lleol eisiau symud at drefn o roi addysg Gymraeg i bob un disgybl.
Fe fydd y cyfleusterau ar y “campws cymunedol” hefyd yn cynnwys llyfrgell a phwll nofio, a bydd y cynlluniau yn cwrdd ag achrediad Passivhaus sy’n golygu y bydd gan yr adeilad safonau effeithlonrwydd ynni uchel fydd yn lleihau’r allyriadau carbon.