Nod gŵyl newydd sbon sy’n digwydd ar-lein ar hyn o bryd yw rhoi sylw i bwysigrwydd cerddoriaeth a’r celfyddydau i iechyd meddwl…

Mae tanio trafodaeth ehangach ar sut gall y celfyddydau fod o fudd i iechyd meddwl pobol “yn bwysig iawn.”

Dyna farn dawnswraig o Sblot, Tamsin Griffiths, un o’r bobol greadigol sy’n cymryd rhan mewn gŵyl newydd, Gŵyl Celfyddydau’r Rhuban Gwyrdd, sy’n mynd rhagddi ar-lein ar hyn o bryd, o dan ofal y Sefydliad Iechyd Meddwl.