Mae’r cyn-gynhyrchydd teledu wedi mwynhau “perfformiad ysgubol” actores ifanc ar Netflix, ond mae yna ambell ddrama sydd wedi siomi hefyd…

Mae dwy gyfres ddrama newydd wedi dechrau ar y prif sianeli ers fy ngholofn ddiwethaf. Dw i am sgwennu am Roadkill (BBC 1) yn y golofn nesaf achos dw i’n sgwennu hon cyn i’r bedwaredd bennod gael ei darlledu, ac mae lot fawr o’r hyn dw i eisiau ei ddweud yn ymwneud â honno.