Daeth tymor y Pabis Coch unwaith eto, y cyfnod pan fyddwn yn cofio am aberth y sawl a ddioddefodd ac a gollodd eu bywydau mewn rhyfeloedd gwaedlyd ac erchyll.

Mae’n anffodus iawn bod elfennau o fewn gwladwriaeth y Deyrnas Unedig yn benderfynol o droi’r pabi coch yn symbol o Brydeindod adweithiol adain dde yn hytrach nag yn symbol o barch a choffadwriaeth.

Mae’n wrthun o beth bod y giwed honno wedi dibrisio’r pabi coch a’i wenwyno gyda’u ffasgaeth fodern Brydeinllyd.