Mae gen i waith ‘dal i fyny’ yr wythnos hon, gan ddechrau ag atgyfodiad Channel 5 o All Creatures Great and Small. Yn syml, os gwnaethoch ei fwynhau ers talwm, byddwch yn ei fwynhau rwan. Mae’n gyfres cosy, dim byd i’ch yspetio cyn mynd i’r gwely, golygfeydd hyfryd a gwaith dylunio sy’n dod â’r 1950au’n fyw, a’r cwbl wedi’i gynhyrchu ag arddeliad. Fedra i’m beio’r gyfres am lwyddo i fod yr union beth y bwriedid iddi fod –  prif ffrwd, cyfforddus, ac wedi’i gosod mewn go