Pen-blwydd hapus yn un oed i’r tair gwefan gyntaf i gael eu creu dan adain Bro360!

I ddathlu’r garreg filltir, dyma godi cwr y llen ar y gwahanol ffyrdd y mae pobol wedi gwneud gwahaniaeth i gymdeithas ac i’w cymdogaeth, trwy gyfrwng eu gwefan fro…

Gwneud gwahaniaeth… y 10 uchaf!

(nid mewn unrhyw drefn!)

  • Helpu elusennau… a’r Gymraeg!

Er gwaethaf cyfyngiadau’r Cyfnod Clo, mae pobol wedi parhau i weithredu er budd eraill. Mae’r gwefannau bro wedi bod yn drwch o hanesion clybiau ac unigolion yn codi arian i elusennau dros y misoedd diwethaf. Ni chafodd neb fwy o sylw na Rhythwyn Evans – gŵr 91 oed o Silian ger Llanbed osododd her i’w hunan i gerdded rownd y tŷ 91 o weithiau ar ddiwrnod ei ben-blwydd. Nid yn unig oedd e wedi llwyddo i godi dros £50,000 i’r Gwasanaeth Iechyd, ond achosodd ei boblogrwydd i JustGiving drydar yn Gymraeg! Dechreuodd y cyfan ar Clonc360

  • Rhannu syniadau ‘dod ynghyd’

Pwy ag ŵyr faint o bethau gwych sydd wedi’u gwireddu ar ôl gweld syniad gan rywun arall? Wrth addasu i’r argyfwng, mae pobol oedd yn arfer dod ynghyd mewn neuaddau, festrïoedd a thafarndai wedi gorfod troi at y we er mwyn cynnal yr angen sydd ynom fel cymdeithas i ddod ynghyd. Un o nifer sydd wedi cynnig syniadau, tips ac ysbrydoliaeth yw Gethin Griffiths, gyda ‘Dim cwis dafarn? Dim problem?’ ar Caernarfon360.

  • Llenwi’r bwlch democrataidd

Mae pandemig byd-eang wedi agor ein llygaid i’r ffyrdd y mae gwledydd gwahanol yn ymateb yn wahanol i ddiogelu eu pobol. Ac mae tipyn o sôn am y lles y mae’r gwahaniaethau rhwng llywodraethau Cymru a San Steffan wedi’i wneud i ddealltwriaeth pobol o ddatganoli. Mae’r gwefannau bro wedi chwarae eu rhan yn amlygu pwysigrwydd gwleidyddiaeth leol, yn enwedig wrth i gynghorau sir ddatblygu ffyrdd unigryw o weithredu. Mae Lloyd Warburton yn un sydd wedi cyfrannu, trwy ddadansoddi ystadegau Covid Ceredigion, ar BroAber360.

  • Hyrwyddo menter yr ifanc

Wrth i ni weld twf yn y gwerthfawrogiad o’r lle lleol yn ystod yr argyfwng, mae mwyfwy o bobol wedi ailddarganfod busnesau bach a dechrau prynu cynnyrch lleol. Mewn ymateb cadarnhaol i heriau’r cyfnod, mae dau deulu yn ardal Llanbed wedi mentro, a dechrau busnes gwerthu llaeth yn syth o’r fferm. Cennydd Jones greodd bodlediad ar Clonc360 er mwyn rhannu stori’r bobol ifanc ac ymchwilio i’r newid yn ymddygiad cymdeithas.

  • Sylw haeddiannol i newyddion lleol
Protest yn erbyn cau ffatri bapur Penygroes

Os yw cwmni enwog yn cau yng Nghymru, mae’n newyddion mawr. Ond os yw busnes sy’n cyflogi 94 o bobol ym mhentref Penygroes yn cau yn ddirybudd, mae hynny’n newyddion enfawr i bobol y fro. Gan fod lluniau’n gallu adrodd cyfrolau, un o’r hogia’ lleol, Hedydd Ioan, aeth â’i gamera i gofnodi protest cau ffatri Northwood ar gyfer DyffrynNantlle360.

  • Codi llais

“Twll o le yw Tregaron i gynnal Eisteddfod!” Myth yw hynny, wrth gwrs, meddai disgyblion Ysgol Henry Richard! Gyda hiwmor cefn gwlad, llwyddodd Megan a Zara i chwalu pob rhagfarn am eu bro gyda fideo ar Caron360. Ac nid nhw yw’r unig rai i ddefnyddio eu gwefan i godi llais am bethau sy’n bwysig yn lleol ond na fyddai, o reidrwydd, yn cael sylw gan y cyfryngau canolog: o ymbil am lai o sbwriel ar y stryd, i wylltio gydag ymgyrch ‘dim cig’, i gwestiynu datblygiad tai… mae pawb â’i farn.

  • Datgelu gwerth mudiadau

Mae cyfraniad a gwerth clybiau chwaraeon, corau a phartïon, canghennau Merched y Wawr, clybiau ieuenctid ac ati i gymdeithas yn amlwg i bawb sy’n cymryd rhan. Ond dros y flwyddyn ddiwethaf mae Clwb Ffermwyr Ifanc Ceredigion wedi defnyddio’r gwefannau bro yn gyfrwng i festyn mas, a lledu gwaith da y mudiad i glustiau a llygaid newydd. Ar ben hynny, mae’r blogiau byw o gystadlaethau drama, rali ac eisteddfod sirol wedi rhoi’r cyfle i ddegau o aelodau gydweithio, magu hyder a gweithredu’n greadigol.

  • Mwy yn creu yn y Gymraeg

Ydy, mae Bro360 yn gallu brolio bod ‘na bobol na fyddai fel arfer yn sgwennu yn iaith y nefoedd wedi mynd ati i greu straeon Cymraeg ar eu gwefan fro. Blogio’n Saesneg fyddai Owain Williams yn ei wneud fel rheol, ond cafodd yr hyder i greu blog ‘Wiwar Mynydd’ am y profiad o redeg copaon Eryri ar gyfer Ogwen360. Mae’n creu darlun ysbrydoledig gyda’i ddawn trin geiriau.

  • Rhoi llwyfan i hanes lleol

Wrth ein traed mae dechrau. Ac mae hynny’n sicr yn wir gyda hanes. Wrth i’r galw gynyddu ar i’r cwricwlwm roi mwy o bwys ar hanes Cymru, mae rhai pobol ifanc wedi mynd gam ymhellach, trwy adrodd straeon pobol leol yn ein hanes a’u rhannu ar eu gwefan fro. Mae cyfraniadau Elin Nant ar BroWyddfa360 ac Aled Morgan Hughes ar wefannau Ceredigion, gyda’u hanesion am effaith Ffliw Sbaen ar eu cymunedau ganrif yn ôl, yn rhoi cyfle amhrisiadwy i ninnau heddiw ddysgu o’n gorffennol.

  • Cynllunio dyfodol cymdeithas… o’r gwaelod lan

Dros yr haf mae sgyrsiau digidol wedi’u cynnal mewn llu o fröydd, i drafod tri chwestiwn: Sut beth oedd ein bywyd cyn Covid? Beth yw’r dyfodol gwaethaf posib? Beth yw’r dyfodol gorau y gallwn ei ddychmygu? Wrth ddadansoddi sgyrsiau cychwynnol ‘Prosiect Fory’, daeth hi’n amlwg bod un thema’n codi’i phen ym mhob elfen o bob sgwrs: gwerthfawrogiad o’r newydd o’r filltir sgwar. Lleisiau llawr gwlad sy’n dweud hynny. Mae eu syniadau’n werth eu clywed, ac mae’r sgyrsiau ynddyn nhw eu hunain wedi gwneud gwahaniaeth: yn grymuso pobol i siapio ein dyfodol ein hunain.

Straeon sy’n gwneud gwahaniaeth dro ar ôl tro

  • Crynodeb o gofnodion cynghorau tref a chymuned
  • Fideos uchafbwyntiau gemau chwaraeon lleol
  • Straeon cadarnhaol am newyddion busnes
  • Adroddiadau o’r mart a’r sêls da byw
  • Teyrngedau i gofio am bobol leol a’u dylanwad