Mae’r Urdd wedi tanio trafodaeth hanfodol am anabledd yn y celfyddydau…

Mae “llawer mwy” angen ei wneud i wella mynediad pobol ifanc gydag anableddau at y celfyddydau yng Nghymru.

Dyna farn panelwr a oedd yn rhan o’r sgwrs ‘Anableddau yn y Celfyddydau’ ar-lein yr wythnos ddiwethaf, yn rhan o raglen gelfyddydol ddigidol Cefn Llwyfan yr Urdd ar gyfer pobol ifanc rhwng 14 a 25 oed.