Wrth iddi geisio mynd i’r afael â’r argyfwng, mae Llywodraeth Cymru wedi cael ei chyhuddo sawl gwaith yr wythnos hon o fod yn llawdrwm.

Yn siarad ag ITV Cymru ar ddechrau’r wythnos, bu Vaughan Gething yn ateb cwestiynau am frechiadau, a daeth awgrym y gellir eu gorfodi ar y cyhoedd.

“Pan ddaw hi at ddarparu’r brechlyn, mae gennym ystod o opsiynau o’n blaenau,” meddai’r Gweinidog Iechyd.