Yn ei ymdrech i gynyddu apêl ei blaid bu Keir Starmer, arweinydd Llafur, yn canu clodydd yr undeb a Phrydeindod yr wythnos hon.

Dechreuodd y cyfan gyda’i ymddangosiad ar The Andrew Marr Show dros y penwythnos lle ddatgelodd ei dro pedol ar refferendwm annibyniaeth i’r Alban.

Yn siarad ym mis Ionawr dywedodd mai mater i bobol yr Alban oedd annibyniaeth, ond ei fod yntau’n ffafrio Teyrnas Unedig gyda sail ffederal iddi.