Ar ôl chwilio a chwilio am bersawr oedd wedi’i wneud o ddeunyddiau naturiol, mae dwy ffrind wedi mynd ati i greu un eu hunain sydd ddim yn defnyddio cemegau synthetig ac sy’ ddim yn niweidio’r amgylchedd…

“Roedd creu’r persawr yn lot o hwyl. Roedd gweithio gyda’r perfumier fel bod gyda Willy Wonka’r byd persawr,” meddai Catrin MacDonnell wrth esbonio’r broses o greu persawr naturiol gyda’i ffrind Hemali Modha.