Annwyl Chi,

Mae popeth yn barod i chi fynd yn ôl – y wisg ysgol newydd ar yr hangers; gwalltiau wedi eu torri’n daclus; sglein y ’sgidiau wrth y drws ffrynt r’un fath â sglein y cyffro yn eich llygaid chi. Fe gewch chi ddychwelyd i ystafelloedd dosbarth, athrawon ffeind, cwmnïaeth eich ffrindiau. Fe gipiodd Covid eich cymdeithas chi am chwe mis, ond rŵan, mygydau ymlaen a’ch dwylo’n drewi o sebon, fe gewch chi ddychwelyd i’r ysgol.

Cha’i ddim ei ddweud o, achos mai plant ydach chi ac am nad ydach chi’n haeddu baich trymlwythog cariad mam – ond fe fydda i’n hiraethu amdanoch chi bob un dydd.

Cha’i ddim ei ddweud o, achos mae gymaint o bobol wedi bod yn sâl, gymaint wedi marw, gymaint wedi dioddef – ond fe ddalia i’r chwe mis yma yn dynn dynn yn fy nghalon am byth. Fe gefais i’r fraint ohonoch chi, llawn amser, yn gwmni ac yn gysur.  Ni fu codi’n gynnar, na noswylio’n gynnar chwaith, a doedd dim Brysia rŵan, neu fydd Mam yn hwyr i gwaith!’ Cafwyd gwanwyn gyfa’, a’r haf hefyd, machlud ar ôl machlud ar ôl machlud yng nghmwni’n gilydd.

Roedd gwaith cartref, a finnau wedi dysgu eich bod chi’n deall mwy na fi am y rhan fwyaf o bethau. Roedd yna greu dynion a bwystfilod allan o glai, neu ffelt-tips, neu dywod. Roedd yna ffilmiau fin nos, a neb yn cytuno ar beth oedd yn dda a beth oedd yn wael. Roedd yna ddysgu sut i chwarae poker a 21 dros fwrdd y gegin, a bu cyfres o gemau Monopoly cystadleuol, cyfalafol. Roedd yna liw haul a blas y môr.  Roedd yna gerdded llwybrau bob un dydd, a straeon fin nos, a’r holl amser yn y byd jest i fodoli efo’n gilydd ym mynwes saff ein cartref.

Fe wnaethoch chi dyfu, o do, yn y cyfnod clo – ond fe dyfais innau. Fe ddysgoch chi, gobeithio, gen i, ond dim hanner gymaint ag y dysgais innau gennych chi.

Cha’i byth mo’r amser yna eto. Cha’i byth Ni, dim ond Ni, yn dod i wybod y gwirioneddau hyfryd ro’n i wastad wedi eu hamau – ein bod ni’n ffrindiau go-iawn, yn ddedwydd gyda’n gilydd. Pan oedd y byd yn afiach y tu hwnt i’n drws ffrynt ni, nid carchar oedd ein caethiwed ni, ond hafod.

Diolch i chi.

Cariad Mawr,

Mam x