Mae’n rhyfedd meddwl mai yng Nghymru y dechreuodd corff sy’n cael ei ystyried yn un o drysorau diwylliant Lloegr.
Yn 1895 y cafodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ei darn cynta’ o dir – Dinas Oleu ger Y Bermo – yn rhodd gan ddynes o’r enw Fanny Talbot.
Rŵan – 125 mlynedd yn ddiweddarach – mae’n ymddangos bod yr elusen yn wynebu argyfwng, nid oherwydd effeithiau Covid-19 yn unig, ond hefyd am fod cynllun mewnol i weddnewid ei ffordd o drin rhai o’i hadeiladau.