Does dim dwywaith nad yw argyfwng tai cefn gwlad yn dwysáu. Mae llawer o gwyno, ond does yna fawr o atebion ymarferol yn cael eu cynnig, a’r broblem sylfaenol yw ein bod yn byw gyda threfn sy’n credu mai’r farchnad ddylai reoli, ac mai adnodd masnachol yw tai yn hytrach na chartrefi i bobol.