Pan gawson ni hanes y Rhufeiniaid yn ymosod ar Fôn yn yr ysgol gynradd, mi ddeudodd un o’r hogia o’r cefn, “Biti na fysan ni yna efo mashîn-gyns, Syr.”

Dw i’n siŵr bod sawl un ohonom wedi meddwl yn ein tro “Beth petai…” rhywbeth neu’i gilydd wedi bod yn wahanol. Mae genre Hanes Amgen yn un poblogaidd a dw i wedi gwylio dwy gyfres a drama “beth petai” yr haf hwn.