Mae darlunydd o Ynys Môn wedi bod yn creu cardiau sy’n cynnwys negeseuon bach positif, gyda rhan o’r elw yn mynd at y wefan sy’n trafod iechyd meddwl…

D’yw dy salwch meddwl ddim yn dy ddiffinio di’… ‘Mae gofyn am help yn arwydd o gryfder’… ‘Fe ddaw enfys’ – dyma rai o’r dyfyniadau positif sy’n britho gwaith celf y dylunydd Heledd Owen, sy’n byw ar gyrion Benllech yn Ynys Môn.