Mae cwpl priod wedi cychwyn busnes llewyrchus yn bragu a gwerthu eu cwrw eu hunain ynghanol y pandemig coronafeirws.

Mae Bragdy Cybi yn cynhyrchu chwe gwahanol fath o gwrw – ond nid ar yr un pryd – mewn lleoliad ar Ynys Cybi oddi ar arfordir gorllewinol Ynys Môn.