Mae golygydd ifanc o Ben Llŷn wedi ennill gwobr fawr lenyddol Tir na n-Og gyda llyfr am heriau iechyd dwys rhai o’i chyfoedion.

Byw yn fy Nghroen oedd enillydd categori llyfrau Cymraeg i blant ysgol uwchradd Gwobrau Tir na n-Og 2020.

Fe gafodd ei olygu gan Sioned Erin Hughes o Ben Llŷn. Ers 2013 mae hi’n dioddef o Myasthemia Gravis – cyflwr sy’n golygu bod gwrthgyrff y corff yn ymosod ar y cysylltiad rhwng y cyhyrau a’r nerfau.