Fel mae darllenwyr brwd Golwg yn gwybod, nid myfi yw ffan mwyaf Elis James. Rwyf eisoes wedi sôn am fethu chwerthin tra’n gwylio Cic Lan yr Archif.
Diddorol, felly, oedd gweld fod ei bodlediad Radio Cymru, Dwy Iaith Un Ymennydd, wedi ennill gwobr aur am y Best Podcast in the Welsh Language yng nghystadleuaeth y British Podcast Awards.