Diolch i’r pandemig, mae seramegydd wedi gadael Caerdydd ac ail-ymgartrefu ym mro ei mebyd, er nad oedd hynny yn “rhan o’r plan”…
A glywoch chi am unrhyw un yn tanio darn o lechen mewn odyn glai eirias? Wel, doedd adran serameg Prifysgol Fetropolitan Caerdydd heb wneud chwaith, cyn i Rhiannon Gwyn o Sling ger Tregarth fentro gwneud hynny.