Y llyfr dw i ar ganol ei ddarllen

Spain, gan Jan Morris. Dysgais i Sbaeneg wrth draed athrylith o athro amlieithog, Georges Rochat, a lwyddodd i danio diddordeb cenedlaethau o fechgyn Ysgol y Porth, Rhondda yn Sbaen, ei hiaith, ei hanes a’i llenyddiaeth. Parhaodd y diddordeb hwnnw hyd heddiw ac mae darllen rhyddiaith goeth Jan Morris a’i dadansoddi craff bob amser yn bleser pur.

Y llyfr a newidiodd fy mywyd