Mae gan Tom Macauley chwip o lais canu bluesy ac mae ei gân Gymraeg gynta’ – ‘Mwg Mawr Gwyn’ – yn glincar.

Dychmygwch gân hiraethus, llawn gwewyr yn cael ei chanu gan lais sy’n gyfuniad o Paolo Nutini ac Yws Gwynedd, a dyna – sort of – y math o beth sydd dan sylw.

Er mai ‘Mwg Mawr Gwyn’ yw cynnig cynta’r canwr o Abersoch ar sgrifennu cân yn Gymraeg, mae o wrth ers blynyddoedd yn cyfansoddi rhai Saesneg.