Mae Cymro yn denu miloedd ar filoedd i’w wylio yn chwarae gemau cyfrifiadurol ar y We, ac mae’r fenter – RKG – yn gwneud dros £20,000 y mis drwy danysgrifwyr.

Yn ffigwr hynod adnabyddus ar y sin gemau cyfrifiadur, ers dwy flynedd bellach mae Gav Murphy wedi bod yn torri ei gŵys ei hun.

Ar un adeg roedd yn rhan o dîm y wefan Americanaidd, IGN (Imagine Network Games), lle’r oedd yn creu fideos o’i hun yn chwarae gemau cyfrifiadur.

Ac mae’n dal i wneud bywoliaeth o hynny hyd heddiw gyda RKG, ei gwmni ef a’i ffrindiau.

Mae’r Cymro Cymraeg 34 oed o dref Ystrad Mynach ger Caerffili, hefyd wedi cyfrannu cryn dipyn at Hansh a Radio Cymru.

Dechreuodd y cyfan yn 2007 pan symudodd i Lundain ar ôl astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Daeth yn is-ymchwilydd i gwmni cynhyrchu ac yn rhinwedd y swydd bu’n creu fideos ac yn sylwebu ar gemau chwaraeon – y rheiny sy’n cael eu darlledu gan gwmnïau betio.

“Ges i jobs yn gwneud commentary i Asian Champions League a stwff fel’na!” meddai.

Bu’n gwneud hynny am ryw bedair blynedd, ond trwy gydol y cyfnod yma roedd yn ysu i greu deunydd am gemau cyfrifiadur.

Yn y pen draw, llwyddodd i gael swydd yn creu fideos i gylchgrawn swyddogol Nintendo, y cwmni gemau o Japan sy’n enwog am y cymeriadau ‘Mario’ a ‘Luigi’.

“Doedden nhw heb wneud fideos o’r blaen, felly roedden nhw angen rhywun i ddod mewn a gwneud popeth,” meddai. “Felly des i mewn a dechrau gwneud sioe wythnosol iddyn nhw [ar y We].

“Wnaeth hwnna fynd yn fwy ac yn fwy, a daeth hynna’n llwyddiant mawr i’r cwmni yr oeddwn yn gweithio iddo fe. A dywedon nhw: ‘Do whatever you want’.”

Mi lwyddodd i ddenu sylw IGN, ac ar ôl derbyn cynnig swydd dros Twitter, dechreuodd weithio i’r cwmni hwnnw yn 2014.

“I’r bobol sy’n gwybod beth yw e, maen nhw’n gwybod pa mor massive yw e’,” meddai, “ac roedd gweithio ar hynna jest yn amazing. Dyna’r unig beth oeddwn i eisiau gwneud.”

Ef oedd prif gyflwynydd IGN UK Podcast sef “un o’r podcasts mwyaf yn y byd”, meddai, o ran gemau a ffilm, a thrwy hyn cafodd gyfle i wneud cyfweliadau â phobol mewn “films huge”.

Bu hefyd yn ffilmio ei hun yn chwarae gemau cyfrifiadur, ac yn gosod y fideos ar y We dan yr enw Prepare to Try.

Mae un o’r fideos yma wedi cael ei wylio dros 500,000 gwaith, ac yn ôl Gav Murphy roedden nhw’n hynod lwyddiannus.

“Daeth yn un o’r sioeau mwya’ poblogaidd mae IGN erioed wedi gwneud,” meddai.

Rory Powers a Daniel Krupa oedd ei gyd-gyflwynwyr yn y fideos yma, ac yn 2019 fe benderfynon nhw sefydlu eu cwmni eu hunain o’r enw RKG (Rory, Krupa, Gavin).

Mae’r Cymro yn egluro eu bod wedi ei greu yn rhannol am eu bod wedi methu treulio digon o amser ar Prepare to Try tra’r oedden nhw’n gweithio i IGN.

Roedd cymryd y naid a mynd ar eu liwt eu hunain yn dipyn o beth.

“Roedd hynna’n scary am fod IGN yn dwlu arnon ni,” meddai Gav Murphy. “Gallen ni fod wedi gweithio i IGN am weddill ein gyrfaoedd – am weddill ein bywydau, hyd yn oed.

“Felly roedd yna ofn mewn ffordd am ein bod yn cymryd y support net yna i ffwrdd … ond roedden ni gyd yn eitha’ hyderus am fod ein cymuned [o ffans] mor gefnogol. Maen nhw’n anhygoel.”

Mae RKG yn ennill $33,000 (rhyw £26,500) y mis trwy Patreon – gwefan lle mae modd i ffans danysgrifio a chyfrannu arian – ac mae Gav Murphy yn dweud bod y rhan fwyaf o’r celc yn cael ei fuddsoddi yn y cwmni.

Eglura bod y tri sy’n berchen ar RKG yn “ffrindiau really da” a’u bod nhw byth yn colli amynedd â’i gilydd “achos yn y bôn r’yn ni’n chwarae gyda theganau”.

Er bod ei yrfa yn swnio fel taith eitha’ llyfn, mae Gav Murphy yn pwysleisio ei fod wedi gorfod goresgyn ambell rwystr.

“Roedd lot o gnocio ar ddrysau, a slamio drysau yn fy wyneb,” meddai. “A hynny achos bod pawb eisiau gwneud y job yma…

“Ond doeddwn i jest byth yn mynd i wneud job doeddwn i ddim yn hoffi. Ac roeddwn i’n adamant fy mod i’n mynd i droi hobi yn yrfa. Roeddwn i jest yn adamant.”

Er nad oedd ei rieni yn siarad Cymraeg, roedd ei fam yn teimlo ei bod yn “bwysig iawn” ei fod y mynd i ysgol Gymraeg.

Mae’r cyflwynydd sy’n byw yn Llundain yn cyfeirio yn rheolaidd at ei famwlad yn ei fideos, ac mae’n dweud ei fod yn falch iawn o’i Gymreictod.

“Mae wedi dod yn jôc massive i ni nawr,” meddai. “Mae pobol yn gadael sylwadau ar ein fideos: ‘how long into a video before Gav mentions Wales?!’ Dw i jest yn rili rili prowd…

“Mae’n eitha’ neis achos dw i’n cael ambell neges wrth bobol o Gymru: ‘Shit! Doeddwn i heb sylwi dy fod yn Gymro! Doeddwn i ddim yn gwybod ei fod yn bosib i Gymro weithio i IGN!’

“Mae’r [feddylfryd] yna, i fi, yn ffycin nyts, achos ni yw’r gorau!”