Pan gaeodd bron pob busnes yn sgil pandemig y coronafeirws nôl ym mis Mawrth, roedd Marina Midolo yn derbyn y byddai’n rhaid iddi roi’r gorau i wneud ei chacennau am gyfnod hir. Roedd hi wedi bod yn gwerthu ei chreadigaethau melys i gaffis a siopau yn Sir Ddinbych, gan gynnwys The Cabin yn Rhuthun, The Little Cheesemonger yn Rhuddlan a The Olive Tree yn yr Wyddgrug.