Mae Carl Morris yn ymgyrchydd gwleidyddol, yn Gristion, DJ, ac yn un garw am ei dechnoleg fodern.

Mae’r gŵr 38 oed o Gaerdydd yn un o sefydlwyr Tarian Cymru a bellach mae’r grŵp hwnnw wedi llwyddo i ddarparu dros 200,000 o eitemau diogelu personol i weithwyr ar reng flaen y Gwasanaeth Iechyd.

Carl Morris sy’n gyfrifol am wefan Tarian Cymru, ac maen nhw wedi codi bron i £80,000 ar-lein yn rhannol oherwydd ei ymdrech yntau.