Steil

Wnes i ofyn i fy nghariad sut fysa fo’n disgrifio’n steil i, a’i ateb o oedd: “Ym…pyjamas.” Felly dw i’n amau bod hynny’n ddigon i egluro sut mae’r cloi mawr wedi effeithio’n steil i. Mae gen i dressing gown brynodd Mam i fi ar fy mhen-blwydd gan gwmni o’r enw One Hundred Stars, a dw i’n byw ynddi. Dw i’n caru mynd allan i’r ardd yn fy dressing gown bob bora efo panad pan fydd hi’n braf, a fan’na fydda’i am ryw awran yn potsian o gwmpas.