Mae Vaughan Gething wedi dweud y byddai’n cael y sac pe bai’n ymddwyn fel y gwnaeth Dominic Cummings.

Daeth sylwadau’r Gweinidog Iechyd mewn ymateb i helyntion diweddaraf yr ymgynghorydd gwleidyddol.

Mae Dominic Cummings yn brif ymgynghorydd i’r Prif Weinidog yn San Steffan, ac mae wedi dod dan y lach am deithio 260 i ogledd Lloegr ym mis Mawrth.

Roedd hyn rhai dyddiau wedi i’r cyfnod clo ddod i rym yn Lloegr, ac mae’r ffigwr dadleuol wedi ei gyhuddo o dorri rheolau’r argyfwng.