Mae rhai o drigolion Pontypridd wnaeth ddioddef difrod sylweddol i’w cartrefi oherwydd llifogydd mis Chwefror, yn dal i drio trwsio eu tai tra yn dygymod gyda chyfyngiadau’r coronafeirws ar yr un pryd.

Ddechrau’r wythnos, fe wnaeth un ohonyn nhw, Virginia ‘Ginny’ Davies, rannu ei phrofiad â Golwg.

Ers y cloi mawr mae’r fenyw 79 oed wedi bod yn hunan-ynysu i fyny’r grisiau am fod llawr gwaelod ei chartref wedi ei ddifrodi yn gynharach eleni.