“Mae wedi troi’n gaseg eira.” Dyna sut mae un gwirfoddolwr wedi disgrifio ymdrechion criw o Gymry  i brynu’r cyfarpar diogelwch PPE i weithwyr rheng flaen.

Dim ond mis sydd ers sefydlu Tarian Cymru, ac wrth i Golwg fynd i’r wasg roedd y grŵp eisoes wedi codi dros £60,000 i brynu mygydau a menig i gadw gweithwyr allweddol yn ddiogel.

Bellach mae llu o enwogion – gan gynnwys yr actor Hollywood, Rhys Ifans; a’r comedïwr, Elis James – wedi cefnogi’r achos.