Mae oriau gwaith y melinydd yn un o’r melinau dŵr olaf yng Nghymru sy’n dal i gynhyrchu blawd wedi cynyddu yn arw, er mwyn cwrdd â’r galw.

Daeth blawd yn beth mawr ers y cloi mawr wrth i bobol droi at bobi bara gartref fel ffordd o gadw’n brysur.

Fe roddodd Emma Williams y gorau i nyrsio yn 2018 er mwyn cadw’r felin i falu ym mhentref Llandudoch yng ngogledd Sir Benfro.