Mae’n anodd osgoi hen gemau sy’n glasuron ar y teledu’r dyddiau yma. Mae pob darlledwr yn ailddangos gemau mawr o’r gorffennol i lenwi’r bwlch sydd wedi agor heb bêl-droed byw i’w ddangos ar ein sgriniau.

Un wnaeth ddal fy llygaid oedd gêm sydd heb gael lot fawr o sylw o’r blaen.  Dydw i ddim yn cofio gweld Cymru yn curo Lloegr ar y teledu yn 1984, ond dyna’r gêm roedd y BBC wedi dewis fel un o’r clasuron i’w darlledu’r wythnos yma.