Mae Dafydd Dabson yn chwip o gitarydd sy’n chwarae mewn sawl band ac wedi teithio’r byd yn gigio.
Yn y blynyddoedd diweddar mae wedi bod yn sgrifennu caneuon gyda’i fam, y delynores Anna Georgina.
Enw’r project cerddorol yw Derw ac maen nhw newydd gyhoeddi’r sengl gyntaf o’u EP Yr Unig Rhai Sy’n Cofio, fydd ar gael ym mis Awst.
Mae’r sengl newydd ‘Dau Gam’ yn gân bop anthemig, hiraethus sy’n cynnwys llais canu husky a hudolus Elin Parisa Fouladi.