Wedi blynyddoedd o ddechrau arni – a methu gorffen – sgrifennu nofelau, roedd Siân Llywelyn wedi edrych ymlaen at gyhoeddi ei nofel gyntaf fis yma.

Ond diolch i’r pandemig presennol, fe fydd yn rhaid iddi aros ychydig eto cyn y bydd Drychwll mewn print.

Mae’n nofel sy’n cynnwys elfennau o arswyd a ffantasi wrth i’r prif gymeriad ‘Mabli’ golli tri o’i ffrindiau gorau mewn tŷ teras tra sinistr.