Y llyfr dw i ar ganol ei ddarllen 

Sawl llyfr a deud y gwir: Hanes Menywod Cymru (Catrin Stevens), Elis y Cowper, Brenin y Baledi (E Cynfael Lake), Sgyrsiau Pnawn Difyr (straeon ac atgofion rhai o drigolion Pwllheli) a Llawlyfr Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, Pwllheli a’r Cylch, 1958 (cyfle i ddarllen ’chydig o hanes fy seithfed hen daid).

Y llyfr a newidiodd fy mywyd