Ers i wledydd y byd rhoi’r gorau i weithio a theithio, mae llai o lygredd yn yr awyr sy’n “llygedyn o obaith yn yr argyfwng sydd ohoni”, yn ôl yr arbenigwr ar wyddorau’r atmosffer ym Mhrifysgol Manceinion, Geraint Vaughan…
Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, mae llygredd yn yr awyr yn lladd 4.2 miliwn o bobol bob blwyddyn a saith miliwn o gynnwys llygredd aer y tu mewn i adeiladau. Mae naw o bob deg ohonom yn anadlu aer llygredig.