Cafodd adolygiad cyn cwest ei gynnal yr wythnos hon i farwolaeth dynes wnaeth dagu ar ôl cymryd rhan mewn her bwyta malws melys.

Mae’r diddanwr wnaeth gynnal yr her yng Nghlwb Rygbi Beddau, Rhondda Cynon Taf, bellach wedi rhoi’r gorau i gynnal cystadlaethau o’r fath.

Dywedodd y crwner cynorthwyol, Gavin Knox, y bydd y cwest yn cynnwys rheithgor.

Dyma’r cefndir…

 

 

 

 

 

Beth ddigwyddodd?

Bu farw Natalie Buss, 37, ar ôl iddi gymryd rhan mewn cystadleuaeth bwyta malws melys yng Nghlwb Rygbi Beddau, Rhondda Cynon Taf ar Hydref 7 y llynedd.

Yr her oedd gweld faint o’r malws melys y gallai hi eu rhoi yn ei cheg o fewn munud.

Roedd y gystadleuaeth yn rhan o noson codi arian yn y clwb.

Clywodd adolygiad cyn cwest ym Mhontypridd yr wythnos hon fod Natalie Buss, oedd yn fam i ddau o blant, wedi mynd ar y llwyfan ac wedi llyncu dwsinau o’r malws melys cyn cael ei tharo’n wael ar ôl iddi adael y llwyfan.

Er gwaethaf ymdrechion i’w hachub, bu farw cyn i barafeddygon allu ei helpu.

Pam fod rheithgor am fod yn rhan o’r cwest i’w marwolaeth?

Roedd yr adolygiad cyn cwest ym Mhontypridd ddydd Mercher (Medi 11) wedi clywed bod y Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi cael gwybod am y farwolaeth. Oherwydd hyn bydd y cwest yn cynnwys rheithgor.

Yn aml, mae cwestau yn cynnwys rheithgor pan fydd marwolaeth rhywun yn digwydd mewn amgylchiadau y gellid eu hystyried yn ‘amheus, yn ddadleuol, neu sydd â goblygiadau ehangach i’r cyhoedd’.

Bydd y cwest yn ystyried asesiadau risg gafodd eu cynnal cyn y gêm a’r camau gafodd eu cymryd i leihau’r risg o gynnal y gystadleuaeth.

Dywedodd y crwner cynorthwyol, Gavin Knox y bydd yn asesu beth ddigwyddodd wrth i Natalie Buss chwarae’r gêm, yn ogystal ag achos meddygol ei marwolaeth.

Mae disgwyl i’r cwest gael ei gynnal y flwyddyn nesaf.

Beth am y diddanwr oedd wedi trefnu’r her?

Mae’r diddanwr a DJ profiadol oedd wedi trefnu’r gystadleuaeth wedi cael ei holi gan yr heddlu, a chlywodd yr adolygiad cyn cwest fod disgwyl iddo roi tystiolaeth yn y cwest, ynghyd â nyrs oedd wedi ceisio helpu Natalie Buss ar y noson.

Mae’r diddanwr bellach wedi rhoi’r gorau i gynnal yr her mewn digwyddiadau ers y drasiedi.