Fe gyhoeddodd Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf na fyddai seremoni’r Fedal Ddrama’n cael ei chynnal ddydd Iau (Awst 8).
Y Fedal Ddrama oedd i fod yn brif seremoni’r dydd yn y Pafiliwn ddydd Iau.
Roedd ymateb chwyrn i’r cyhoeddiad, gyda nifer o eisteddfodwyr yn mynegi eu siom. Mae wedi arwain at fwy o gwestiynau nag atebion sydd wedi dod gan yr Eisteddfod hyd yn hyn. Felly, beth arweiniodd at y penderfyniad?
Beth yw cystadleuaeth y Fedal Ddrama?
Y dasg yw cyfansoddi drama lwyfan heb unrhyw gyfyngiad o ran hyd.
Mae’r wobr yn cael ei rhoi i ddrama sydd â photensial i’w datblygu ymhellach drwy weithio gyda chwmni proffesiynol.
Y beirniaid eleni oedd Geinor Styles, Mared Swain a Richard Lynch.
Beth oedd y wobr eleni?
Roedd disgwyl i’r buddugol ennill y fedal, er cof am Urien ac Eiryth Wiliam, a £750 yn rhoddedig gan deuluoedd Megan Tudur, Rheinallt Llwyd a Manon Rhys, er cof am Mair a James Kitchener Davies, eu merch Mari a’u hŵyr Mei.
Dywedodd yr Eisteddfod eu bod wedi rhoi gwybod i aelod o’r teulu sydd wedi rhoi’r wobr ariannol y byddan nhw’n cysylltu gyda nhw yn swyddogol fel teulu cyn diwedd yr wythnos i drafod.
Beth ddywedodd yr Eisteddfod yn eu datganiad?
Daeth datganiad brynhawn dydd Iau o lwyfan y Pafiliwn wrth i’r cystadlu ddod i ben am 4 o’r gloch, yn dweud bod seremoni’r Fedal Ddrama wedi’i chanslo – a hynny ar ôl cwblhau’r broses o feirniadu’r gystadleuaeth.
“Yn dilyn trafodaethau a gafwyd ar ôl cwblhau’r broses o feirniadu’r Fedal Ddrama, daethpwyd i’r penderfyniad bod yn rhaid atal y gystadleuaeth eleni.
“Yn ogystal, ni fydd beirniadaeth yn cael ei chyhoeddi yng nghyfrol y Cyfansoddiadau a Beirniadaethau.
“Bydd yr Eisteddfod yn adolygu prosesau a gweithdrefnau ein cystadlaethau cyfansoddi yn sgil y penderfyniad hwn.”
Oes esboniad wedi dod i’r fei?
Mae golwg360 yn deall bod seremoni’r Fedal Ddrama wedi cael ei hatal gan fod y darn buddugol wedi’i ysgrifennu gan berson gwyn o safbwynt person o gefndir ethnig lleiafrifol.
Mae’n debyg fod enillydd wedi dod i’r brig yn y gystadleuaeth, ond fod penderfyniad wedi’i wneud i atal y gystadleuaeth ar ôl cael gwybod pwy oedd y dramodydd buddugol.
Wrth gael eu holi, dywedodd yr Eisteddfod Genedlaethol nad oes ganddyn nhw ddim i’w ychwanegu at y datganiad gafodd ei gyhoeddi ddydd Iau.
Beth oedd yr ymateb i’r cyhoeddiad gwreiddiol?
Teg dweud bod ymateb chwyrn wedi bod ar y cyfryngau cymdeithasol, wrth i nifer o bobol alw am eglurhad. Dywed rhai ei bod yn “sioc” a “siom” nad oes rheswm wedi cael ei roi am y penderfyniad, sy’n parhau’n ddirgelwch.
Dywedodd un ar X: “Be sy wedi digwydd i’r Fedal Ddrama? Rydan ni yn haeddu rhyw fath o eglurhad os bosib??”
“Hurt bost” oedd ymateb un arall ar X: “Wel, mae’r ddihareb yn wir! Peidiwch â throi’r ddrama yn greisus! Mae ’na newid eisoes yn y Testunau ar gyfer y Fedal Ddrama 2025! Cystadleuaeth wahanol iawn. Gwobrwyo addewid ac arweinyddion yr holl gwmnïau theatr yn feirniaid! Hurt bôst.”
“Amser i’r @eisteddfod egluro,” meddai un arall ar X. “Mae’r #Eisteddfod yn perthyn i ni gyd. Dim digon da trin y cefnogwyr fel yma.”
Ac ymateb un arall: “#eisteddfod yn perthyn i Gymru. Amser i’r #Eisteddfod ateb cwestiynau am eu penderfyniad i sgrapio un o’u prif seremonïau. Mae’r ddrama yn cael ei diystyru fel un o brif ffrwd llenyddiaeth. Mae cwmnïau wastad yn chwilio am ddeunydd newydd.”
Oes unrhyw sylw pellach gan yr Eisteddfod?
Dywedodd yr Eisteddfod ddydd Iau na fyddai’r beirniaid yn gwneud sylw pellach.
Cafodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, ei chyfweld ar BBC Radio Cymru fore Gwener (Awst 9), a dywedodd y bydd yr Eisteddfod yn adolygu eu prosesau a bod angen “parchu’r broses”.
“Mae yna ddatganiad allan yna; fel nodon ni mi aethon ni drwy’r broses ac yna daeth i’r amlwg fod rhaid i ni wneud penderfyniad i atal y gystadleuaeth.
“Fel ydyn ni’n gwneud bob blwyddyn fe fyddwn ni yma yn adolygu ac fe fyddwn ni’n adolygu ein prosesau ni a’n gweithdrefnau ni fel rhan o’r adolygu yna yn dilyn y penderfyniad eleni.
“Mae nifer o bobol wedi rhoi ryw senarios i fi ar hyd y Maes ddoe. Mae yna ddrama yn cael ei greu ar y Maes yma.
“Beth sy’n bwysig ydi ein bod ni’n parchu’r broses a hefyd yn parchu cyfrinachedd a’n bod ni fel corff wedyn yn gallu adolygu a rhoi pethau yn eu lle er mwyn sicrhau bod yna ddyfodol llewyrchus i’r ddrama.
“Fe fyddwn ni’n gwarantu bod ein prosesau ni yn y dyfodol yn gwarantu nad oes rhaid gwneud penderfyniad fel hyn eto – gobeithio.”