Bydd Cymru yn benderfynol o ymateb i’r golled yn erbyn yr Ynys Werdd y penwythnos diwethaf, pan fyddant yn herio Ffrainc yn Stade de France yfory.
Mae’r rheolwr dros dro, Robert Howely wedi gwneud tri newid yn y pac, gyda Justin Tipuric yn dechrau yn safle’r blaen asgellwr, Richard Hibbard yn safle’r bachwr a Ryan Jones yn safle’r wythwr ac yn cael ei benodi yn Gapten.
Dim ond tair gwaith y mae Cymru wedi curo Ffrainc ar dir Ffrengig ers 1975.
‘‘Wrth edrych nôl a’r y gêm penwythnos diwethaf o safbwynt y chwaraewyr a’r staff hyfforddi, nid oedd yr hanner cyntaf yn ddigon da. Ni fydd hyn yn digwydd eto,’’ meddai Robert Howley.
‘‘Roedd ein disgybliaeth yn siomedig ac yn nawr wedi colli wyth gêm yn olynnol. Mae ein sesiynau ymarfer wedi bod yn gadarnhaol yr wythnos hon, ond dyna beth sy’n digwydd pan fyddwch wedi colli neu chwarae’n wael fel y gwnaethom y penwythnos diwethaf. Mae’n gorfodi ni i ganolbwyntio,’’ ychwanegodd Howley.