abertawe


Mae cyn-chwaraewr Celtic a Denmarc, Morten Wieghorst wedi’i benodi’n is-reolwr newydd Abertawe.

Bydd Wieghorst yn ymuno â’i gyd-wladwyr, Michael Laudrup a hyfforddwr y tîm cyntaf, Erik Larsen.

Mae Wieghorst wedi bod yn rheolwr ar dîm dan 21 Denmarc ers 2011.

Yn ystod ei yrfa fel chwaraewr, chwaraeodd yn Uwch Gynghrair yr Alban i Glasgow Celtic, a chynrychiolodd ei wlad 30 o weithiau rhwng 1994 a 2004.

Chwaraeodd yn nhîm Denmarc ochr yn ochr â Michael Laudrup yng Nghwpan y Byd 1998 yn Ffrainc.

Fel rheolwr Nordsjælland, enillodd Gwpan Denmarc ddau dymor yn olynol yn 2009/10 a 2010/11.

Cafodd y penodiad ei gadarnhau mewn cynhadledd i’r wasg yn Stadiwm Liberty prynhawn yma, lle cafodd Wieghorst ei ddatgelu’n ffurfiol.